1 Hoed cas er hyd vy ceissiwyf
2 hudol serch ehudlas wyf
3 Herwydd main yw'r arwydd mau
4 heli a diol haul deau
5 hardd yw ynghaen faingc
6 hael ddu-ail hi a ddiaingc
7 Ni chaf fi hi o'i hanfodd
8 A bun nim cymer o'i bodd
9 Ni thawaf od af heb dal
10 mwy noc eos mewn gwyal
11 Mair a Duw a Mordeyrn
12 y rhai a wyl fy chwyl chwyrn
13 a wnel hyn yw'r rhyfel nwyf
14 I mi y naill am y nwyf
15 ai buan farw heb oir
16 ai cael bun hael a byw'n hîr
17 Rhy debyg medd rhai ddibwyll
18 na wn panid hwn yw twyll
19 prydu gair pryd a garwyf
20 eithr ir vn athro oer wyf
21 o ganmawl bun hun heirddryw
22 O gerdd dda ac arwydd yw
23 Ni roe ryw borth-mon llonn llwyd
24 er vgain-punt a ganpwyd
25 Ni roud i'm naw rad amwyll
26 gwerth hyn onid gwarth a thwyll
27 mul anrheg oedd mal vn-rhyw
28 o bae wr a bwa yw,
29 yn seuthu lle sathr angor
30 gwylan ger marian y mor
31 heb goel budd, heb gael y byllt
32 na'r edn ewin-wedn wen-wyllt
33 Gwydn wyf bwrw gwawd yn ofer
34 ai gwaeth i'm fwrw saeth i'r sêr
35 Pe prydwn gwn gan-henglyn
36 er duw a brydais er dyn
37 hawdd y gwnai erof o hawl
38 fyw o farw fwy-fwy eiriawl
39 ni wnai hi erofi faint
40 y mymryn gwen-ddyn gwyn-ddaint
41 Gwell gan fun ni'm gad hun hawdd
42 ei hen-sail clyd a'i hansawdd
43 na bod yn rhith ger gwlith gwledd
44 gwir-fawl gain Gwerful Gwynedd
45 ni newidia ne wawd-air
46 lle mae a bod ger llaw Mair
47 ni aned merch dreigl serch draidd
48 felen-wallt mor fileniaidd
49 o gwrthid liw eiry gorthir
50 y fau wawd honn a fu wir
51 Gwrthodiad y marchnadoedd
52 gwrthodieith f'annwyl wyl oedd
53 Clwyf pa glwyf gloewa fein-wen
54 plwm a ffals pla am ei phen
dd ap Gwilym